Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (7) v4 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud)
|
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
|
3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Diwygio Cyllidol (30 munud) |
4. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy: TB Buchol (30 munud) |
5. Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: Gwasanaethau Cyhoeddus (30 munud) |
6. Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau'r Diwydiant Dwr (Cynlluniau ar gyfer Mabwysiadu Carthffosydd Preifat) 2011 (30 munud) NDM4739 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r
Rheoliadau’r Diwydiant Dŵr (Cynlluniau i Fabwysiadu Carthffosydd Preifat) 2011 yn cael
ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 20 Mai 2011.
|
7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Bil Senedd y DU ynghylch Ynni (15 munud) (Tudalennau 1 - 5)
NDM4727 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried, yn ychwanegol at y darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynnig NNDM4634, ddarpariaethau pellach a gyflwynwyd yn y Bil Ynni ynghylch Dal a Storio Carbon, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mehefin 2011 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii). Gellir cael mynediad i NNDM4634 drwy’r linc a ganlyn: I weld copi o’r Bil Ynni: http://services.parliament.uk/bills/2010-11/energyhl.html
|
8. Dadl ar Ffioedd Addysg Uwch (60 munud) NDM4740 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn croesawu cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r modd y caiff addysg uwch ran-amser ei hariannu ac i sicrhau cyllid mwy teg ar gyfer myfyrwyr rhan-amser sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Dileu ‘Yn croesawu’ a rhoi ‘Yn nodi’ yn ei le. Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau mai nod y diwygio hwn yw trin myfyrwyr rhan-amser ac amser llawn yn gyfartal. Gwelliant 3 - Nick Ramsay (Mynwy) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori’n llawn â sefydliadau addysg uwch wrth asesu effaith unrhyw newidiadau i’r trefniadau cyllido ar gyfer addysg uwch ran-amser. |
Cyfnod Pleidleisio |
9. Dadl Fer (30 munud) NDM4729 Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Prydau ysgol heb stigma
|
Bydd y Cynulliad yn cwrdd eto yn y Cyfarfod Llawn am 13:30 Dydd Mercher, 22 Mehefin 2011